Rydym yn recriwtio ar gyfer Cydlynydd Prosiect a fydd yn gyfrifol am reoli tîm Prosiect Hwb Bwyd Cymunedol yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.
Byddwch yn hyrwyddo a datblygu rhaglen beilot Hwb Bwyd Cymunedol ac adrodd yn ôl i gyllidwyr a rhanddeiliaid allweddol.
Adrodd ar berfformiad ariannol a pherfformiad prosiect i sicrhau cydymffurfiaeth â’r rhaglen.
£32,000 yn ogystal â phensiwn uwch y cyflogwr a chostau teithio
Byddwch yn gweithio mewn swyddfa, ond bydd disgwyl ichi dreulio amser yn gweithio o fewn y gymuned a gall hyn olygu gyda’r nosau a phenwythnosau.
37.5 awr yr wythnos
Cytundeb cyfnod penodol hyd at fis Mehefin 2023 i ddechrau hyd nes y daw cytundebau hyn ar ôl y dyddiad hwn.
Beth fyddwch yn ei wneud?
Byddwch yn cefnogi, arwain a chydlynu’r rhaglen Hwb Bwyd Cymunedol drwy hyrwyddo cyfleoedd y rhaglen drwy:
- Gyfathrebu’n effeithiol â chymunedau gwledig lleol, busnesau a sefydliadau mewn partneriaeth er mwyn sicrhau ymwybyddiaeth o’r rhaglen Hwb Bwyd Cymunedol.
- Gydweithio â swyddogion i ymateb i ymholiadau prosiect ac arfarnu ceisiadau a gyflwynwyd am hybiau Bwyd Cymunedol newydd o ran cymhwysedd, perthnasedd a gweddu strategol.
- Sicrhau bod y rhaglen Hwb Bwyd Cymunedol yn cael ei hintegreiddio gyda phrosiectau a rhwydweithiau ehangach sy’n cael eu hariannu gan Ewrop neu gan Lywodraeth Cymru, yn ogystal â phrosiectau heb eu hariannu.
- Reoli ymarferion arfarnu proses monitro’r prosiect gyda’r Swyddog Cefnogi Prosiect
- Gynnal ymweliadau monitro prosiectau i sicrhau bod Hybiau Bwyd Cymunedol yn cyflawni’n unol ag amodau cymeradwy a sicrhau bod gofynion cydymffurfio’n cael eu bodloni.
- Reoli ac adrodd ar holl elfennau ariannol y rhaglen Hybiau Bwyd Cymunedol drwy ddadansoddi, adrodd a rhagweld gwariant, a sicrhau cydbwysedd cyllidol.
- Reoli a datblygu’r holl staff sy’n adrodd yn uniongyrchol.
- Fonitro, adolygu a sganio’r gorwel am brosiectau cymorth sydd o gymorth i’r Hybiau Bwyd Cymunedol.
- Gydweithio â staff i ddatblygu a gweithredu rhaglen gadarn ar gyfer cofnodi a monitro canlyniadau a chyflawniadau’r rhaglen Hybiau Bwyd Cymunedol, a gwerthuso i fodloni gofynion WEFO, RDP a’r UE.
- Gefnogi’r sefydliad gan nodi cyfleoedd a chynigion newydd a gwneud y mwyaf o ffynonellau cyllid.
- Ddatblygu a drafftio ceisiadau am gyllid i alluogi’r prosiect i barhau tu hwnt i Fehefin 2023
- Ddatblygu cynllun monitro systematig sy’n casglu data meintiol ac ansoddol er mwyn adrodd ar ddangosyddion perfformiad a chynaladwyedd y prosiect.
- Reoli, cefnogi a chyfeirio cyfranogiad ac ymgysylltiad cymunedol yn yr Hybiau Bwyd Cymunedol.
Ychydig amdanoch chi a’ch sgiliau;
- Wedi cymhwyso ar lefel Gradd, mewn pwnc perthnasol
- Byddai’r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol.
- Parodrwydd i feithrin sgiliau newydd, gweithredu a phrosesu profiad gwelliant.
- Darparu defnydd o reoli prosiectau.
- Sgiliau cyfathrebu rhyngbersonol rhagorol, a’r gallu i weithio’n agos ag eraill mewn modd cydweithredol.
- Y gallu i flaenoriaethu tasgau ac addasu ar fyr rybudd.
- Profiad o ddatblygu prosiect, cyflwyno a/neu reoli prosiectau a ariennir.
- Profiad amlwg o’r sector bwyd yng Nghymru – cynhyrchwyr a darparwyr (Isafswm o 2 flynedd)
- Profiad o ddatblygu prosiectau peilot o fewn cymunedau a rheoli gwirfoddolwyr
- Profiad a gwybodaeth am fonitro grantiau, gwerthuso a rheoli a chaffael ceisiadau
- Profiad amlwg o gynllunio a rheoli cyllid prosiectau
- Lleiafswm o 2 flynedd o brofiad o reoli tîm, o fewn disgyblaeth debyg (Gan gynnwyd gweithio o bell)
- Dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o sut i ddarparu cymorth ym mhob un o’r meysydd sy’n cymryd rhan yn y rhaglen Hybiau Bwyd Cymunedol
- Gallu defnyddio gwybodaeth gyllidol yn effeithiol wrth fonitro prosiectau
- Gwybodaeth amlwg ynglŷn â’r anghenion a’r cyfleoedd sydd ar gael yn ne orllewin Cymru wledig
- Sgiliau cyfathrebu, gwrando a dadansoddi rhagorol
- Sgiliau trefnu da a’r gallu i’w cymhwyso wrth drefnu gwaith annibynnol
- Brwdfrydig a digon o gymhelliant
- Yn gallu gweithio dan bwysau, bodloni targedau a therfynau amser a rheoli llwyth gwaith trwm
- Aelod o dîm a rheolwr prosiect effeithiol
- Dealltwriaeth gymhwysol o foeseg a chyfrinachedd proffesiynol
- Mae profiad o weithio mewn sefydliad trydydd sector yn ddymunol
Sut fyddech chi’n elwa?
Cyflog oddeutu 32k
Gweithio 37.50 awr yr wythnos o ddydd Llun i ddydd Gwener (mae’n rhaid ichi fod yn hyblyg i weithio gyda’r nosau a phenwythnosau oherwydd natur y prosiectau)
25 diwrnod y flwyddyn o wyliau gyda gwyliau banc yn ychwanegol
Cynllun pensiwn uwch
Parcio rhad ac am ddim ar y safle
Ymunwch â sefydliad cyffrous sy’n tyfu i wneud gwahaniaeth i gymunedau gwledig ar draws Gorllewin Cymru.
I ddechrau bydd hon yn swydd a gynigir ar gontract cyfnod penodol tan fis Mehefin 2023 hyd nes y daw cytundebau hyn ar ôl y dyddiad hwn.
Beth i’w wneud nesaf..
Cliciwch ar ymgeisio neu cysylltwch â Claire 01267610900 [email protected]
IND123
#sunnyjobs