PWY YDYN NHW:
Mae ein cleient yn sefydliad sector cyhoeddus sy’n helpu i gadw’r gymuned yn ddiogel ac achub bywydau.
Maen nhw ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Swyddog Addysg Gymunedol yn Morriston
24 awr y wythnos
£23,484 – £24,920
Rol Barhaol
Morriston
Y ROL:
- Darparu negeseuon addysg diogelwch o’r Cyfnod Sylfaen hyd at Addysg Uwch, gan gynnwys cwricwla amgen – addysg ddewisol yn y cartref ac anghenion dysgu ychwanegol.
- Bod yn gyfrifol am drefnu apwyntiadau y cytunwyd arnynt gydag ysgolion, gan flaenoriaethu ymweliadau a chadw cofnodion manwl o apwyntiadau. Bod yn gyfrifol am ganslo ac aildrefnu unrhyw apwyntiadau pan fo angen.
- Rhoi cyngor i athrawon ac aelodau’r cyhoedd ar y gwasanaethau sydd ar gael, e.e. y Rhaglen Cyneuwyr Tanau, ymweliadau Diogel ac Iach, ac ymyraethau ieuenctid perthnasol.
- Ymgynghori â Chynghorydd Safonau Addysgol y Gwasanaeth i sicrhau ansawdd a chysondeb y ddarpariaeth addysg, ac i ddiweddaru’r cysylltiadau gwaith cymunedol mewn perthynas â chynlluniau Plant a Phobl Ifanc.
- Ymgynghori â Swyddogion Arweiniol Diogelwch Cymunedol, Rheolwyr Diogelwch Cymunedol, a chynrychiolwyr o asiantaethau partner a gwasanaethau cyhoeddus i sicrhau bod negeseuon diogelwch yn cael eu cyflwyno i blant a phobl ifanc a’r cymunedau ehangach.
- Cynorthwyo i ddarparu Diogelwch Cymunedol ymhob rhanbarth, yn unol â chyfarwyddyd y Pennaeth Diogelwch Cymunedol. Gall hyn gynnwys gweithio ar benwythnosau, yn ystod gwyliau banc a gyda’r nos, gwaith y rhoir amser yn ei ôl neu daliad cytunedig ar ei gyfer.
AMDANAT TI:
- Cymhwyster addysgu priodol
- Gwybodaeth am rôl y Gwasanaethau Tân ac Achub yn addysgu Plant a Phobl Ifanc, a dealltwriaeth o’r rôl honno
- Gwybodaeth am systemau rheoli gwybodaeth a dealltwriaeth ohonynt
- Gwybodaeth am Cwricwlwm i Gymru
- Gwybodaeth am Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb
IND123
#sunnyjobs
Applications are encouraged from all sections of the community