Rydym yn recriwtio ar gyfer Swyddog Cefnogi Mae hon yn swydd ddiddorol a chyffrous i gefnogi tîm prysur gyda phrosiectau cyffrous ar gyfer prosiect Hwb Bwyd Cymunedol Cymru.
£22,500 yn ogystal â phensiwn uwch y cyflogwr a chostau teithio
37.5 awr yr wythnos o ddydd Llun i ddydd Gwener
I ddechrau bydd hon yn swydd a gynigir ar gytundeb cyfnod penodol tan fis Mehefin 2023 hyd nes y daw cytundebau hyn ar ôl y dyddiad hwn.
Beth fyddwch yn ei wneud?
Yn y swydd hon byddwch yn ymgysylltu â rhwydweithiau bwyd rhanbarthol a grwpiau busnes, mewn perthynas â’r prosiectau, yn cysylltu â chynhyrchwyr bwyd, cyfanwerthwyr, tyfwyr a darparwyr ar draws de orllewin Cymru.
Chi fydd y glud fydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf y maent ei hangen i’r tîm.
- Cymorth gweinyddol i’r prosiect, gan gynnwys dogfennaeth fewnol, adrodd a chydlynu’r grŵp llywio
- Cymorth gweinyddol mewn cyfarfodydd, digwyddiadau, seminarau, gweithdai a rhwydweithiau
- Cynorthwyo gyda threfnu cyfarfodydd, digwyddiadau hyfforddiant, gan gynnwys cysylltu â chynrychiolwyr lleol, cynrychiolwyr grŵp a sefydliadau partner
- Cynnal cronfa ddata o gysylltiadau a diweddaru’r wybodaeth yn ôl yr angen – yn gyfrifol am fap rhanddeiliaid y prosiect
- Cynorthwyo gyda darparu cyfathrebiadau ar gyfer y prosiect, gan gynnwys diweddariadau ar gyfryngau cymdeithasol a chyfathrebu cydlyniad contractau
- Cynorthwyo gyda rheoli gweithdrefnau Rheoli Ansawdd Mewnol a’r Cynllun Gweithredol
- Cynnal adroddiadau monitro’r adran, gan gynnwys dangosyddion perfformiad allweddol a chymorth gydag adrodd ar gynnydd
- Cynnal system ffeilio a llyfrgell berthnasol
- Creu adroddiadau o’r gweithgareddau uchod
- Ateb galwadau ffôn a chymryd negeseuon
- Ymgymryd â phob gweithgarwch ychwanegol rhesymol arall fel y cytunwyd gyda’ch rheolwr llinell
Ychydig amdanoch chi a’ch sgiliau.
- Mae’r swydd hon yn gofyn am unigolyn hunan-gymhellol, sy’n gweithio gyda menter, i gynorthwyo’r tîm a rhedeg y swyddfa yn ddidrafferth
- Byddwch â diddordeb brwd mewn cefnogi cymunedau gwledig
- Profiad perthnasol o weithio mewn modd cydweithredol gydag ystod wahanol o randdeiliaid, a byddai gwybodaeth am gyllid Ewropeaidd yn fanteisiol
- Profiad o fentrau cymunedol yn fanteisiol
- Yn gallu gweithio dan bwysau, bodloni targedau a therfynau amser a rheoli llwyth gwaith trwm
- Byddai natur greadigol ac arloesol yn fanteisiol.
- Sgiliau cyfathrebu, trefnu a gweinyddol gwych gyda lefel dda o allu cyfrifiadurol a’r gallu i ddefnyddio pecynnau Word, Excel, Access ac Outlook.
- Byddai profiad o ddefnyddio Sage yn fanteisiol.
- Trwydded yrru lawn a mynediad at gar sy’n addas ar gyfer gwaith
Sut fyddech chi’n elwa?
- £22,500 yn ogystal â phensiwn uwch y cyflogwr a chostau teithio
- 37.5 awr yr wythnos o ddydd Llun i ddydd Gwener
- Byddwch yn gweithio mewn swyddfa, ond bydd disgwyl ichi dreulio amser yn gweithio o fewn y gymuned gyda darparwyr a gall hyn olygu gyda’r nosau a phenwythnosau.
- 25 diwrnod y flwyddyn o wyliau gyda gwyliau banc yn ychwanegol
- Ymunwch â sefydliad cyffrous a gwnewch wahaniaeth i gymunedau gwledig ar draws Gorllewin Cymru.
- Parcio rhad ac am ddim ar y safle
- I ddechrau bydd hon yn swydd a gynigir ar gytundeb cyfnod penodol tan fis Mehefin 2023 hyd nes y daw cytundebau hyn ar ôl y dyddiad hwn.
Beth i’w wneud nesaf..
Cliciwch ar ymgeisio neu cysylltwch â Claire 01267610900 [email protected]
IND123
#sunnyjobs