Rydym yn recriwtio ar gyfer Swyddog Datblygiad Prosiect i ddatblygu a chynorthwyo’r tîm rheoli prosiect Gwerthiad Cymunedol Ffres Sir Benfro.
£25,000 yn ogystal â phensiwn uwch y cyflogwr a chostau teithio
37.5 awr yr wythnos o ddydd Llun i ddydd Gwener.
I ddechrau bydd hon yn swydd a gynigir ar gytundeb cyfnod penodol tan fis Mehefin 2023 hyd nes y daw cytundebau newydd ar ôl y dyddiad hwn.
Beth fyddwch yn ei wneud?
Mae hwn yn brosiect newydd, cyffrous lle byddwch yn dod o hyd i, a datblygu cyfleoedd yn weithredol, i ychwanegu gwerth at y prosiect yn ogystal â chydweithio gyda sefydliadau dosbarthu a gwerthu bwyd cymunedol perthnasol eraill ar draws Sir Benfro.
- Rhoi cymorth deinamig i gymunedau, sefydliadau busnes a’r sector cyhoeddus i ddatblygu pwyntiau gwerthiad/gadael bocs yn unol ag amcanion trosfwaol y strategaeth ddatblygu
- Recriwtio a datblygu cysylltiadau cadarnhaol â chynhyrchwyr bwyd, cyflenwyr a chyfanwerthwyr o Gymru i ddod yn gyflenwyr gwerthiad
- Recriwtio a datblygu perthnasoedd cadarnhaol â grwpiau cymunedol gyda golwg ar sefydlu pwyntiau peiriannau gwerthu
- Cynorthwyo grwpiau cymunedol a chyflenwyr i ddatrys unrhyw broblemau posibl sydd ynghlwm â rhedeg y pwyntiau gwerthu
- Cynorthwyo grwpiau i adnabod lleoliadau hygyrch a chyflenwyr cynnyrch
- Diweddaru a chynnal cronfa ddata gwerthu a chyflenwyr gan gynnwys data a gwybodaeth ynghylch dangosyddion perfformiad allweddol
- Cofnodi a chasglu tystiolaeth o weithgarwch gwerthiad yn unol â chanllawiau a dangosyddion y prosiect
- Cynorthwyo gyda darparu’r prosiect – cefnogi’r prosiect i gadw ar ben ffordd gyda’i weithgarwch a’r dangosyddion perfformiad allweddol
- Adnabod cysylltiadau ac ychwanegu gwerth ar draws y dosbarthiad bwyd lleol a datblygu’r syniadau hyn
- Sicrhau bod yr arferion gorau yn cael eu rhannu ar draws yr ardal drwy ddatblygu astudiaethau achos, digwyddiadau cyfnewid dysg ac ymweliadau astudio
- Ysgrifennu adroddiadau cynnydd sy’n tynnu sylw at gyflawniadau allweddol y prosiect yn unol â dangosyddion perfformiad cyffredinol y rhaglen
- Rhannu cyfathrebiadau’r prosiect â’r tîm i gyfrannu at gynllun cyfathrebu’r rhaglen
- Mynychu cyfarfodydd y grŵp llywio i adrodd ar gynnydd y prosiect
- Diweddaru cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau ar-lein yn rheolaidd mewn perthynas â chynnydd y prosiect
- Cynnal perthynas broffesiynol a chadarnhaol gydag aelodau eraill o staff ac aelodau’r grŵp llywio
- Ymgymryd â phob gweithgarwch ychwanegol rhesymol arall fel y cytunwyd gyda’ch rheolwr llinell
Ychydig amdanoch chi a’ch sgiliau.
- Agwedd broffesiynol, ragweithiol gyda sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol
- Sgiliau a phrofiad o reoli prosiect
- Profiad o ddatblygu a chyflawni prosiectau cymunedol neu fenter
- Gwybodaeth am heriau a chyfleoedd yn Sir Benfro a De Orllewin Cymru
- Cyfathrebwr cryf gyda sgiliau hwyluso grŵp
- Hunan-ddisgybledig, gydag agwedd gadarnhaol, hyblyg at weithio ar eich liwt eich hun ac yn gallu gweithio fel rhan o dîm
- Lefel uchel o sgiliau cyfrifiadurol
- Yn gallu gweithio’n dda dan bwysau a blaenoriaethu tasgau’n rhagweithiol
- Sgiliau gweinyddol rhagorol
- Trwydded yrru lawn ac yn gallu defnyddio car sy’n addas ar gyfer gwaith.
Sut fyddech chi’n elwa?
- £25,000 yn ogystal â phensiwn uwch y cyflogwr a chostau teithio
- 37.5 awr yr wythnos o ddydd Llun i ddydd Gwener
- Swyddfa wedi ei lleoli yn Arberth, fodd bynnag bydd disgwyl ichi dreulio amser ar draws rhanbarth Sir Benfro. (Fe all y swydd hon ofyn am weithio ambell i gyda’r nos a phenwythnos)
- 25 diwrnod y flwyddyn o wyliau gyda gwyliau banc yn ychwanegol
- Ymunwch â sefydliad cyffrous a gwnewch wahaniaeth i gymunedau gwledig ar draws Gorllewin Cymru.
- Parcio rhad ac am ddim ar y safle
- I ddechrau bydd hon yn swydd a gynigir ar gytundeb cyfnod penodol tan fis Mehefin 2023 hyd nes y daw cytundebau hyn ar ôl y dyddiad hwn.
Beth i’w wneud nesaf..
Cliciwch ar ymgeisio neu cysylltwch â Claire 01267610900 [email protected]